I weld y cylchlythyr hwn yn Saesneg, cliciwch yma.

Croeso i bedwerydd rhifyn cylchlythyr Llysgenhadon Ifanc Cymru.
Yn y rhifyn hwn, fe welwch y newyddion diweddaraf, arferion da a chyfleoedd cyffrous sydd ar gael y tymor hwn.

Panel Cenedlaethol Y Llysgenhadon Ifanc

Yn ddiweddar mynychodd 15 o'n Panel Llysgenhadon Ifanc Cenedlaethol eu hyfforddiant preswyl olaf gyda ni ym Mhlas Menai. Dros y penwythnos buont yn gweithio ar ddatblygu eu sgiliau gwaith tîm, rhwydweithio a chyfathrebu tra hefyd yn dysgu Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Bu'r panel hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau padlfyrddio cyn talgrynnu'r preswyl gyda thasg debyg i brentisiaid i ddatblygu prosiect i gefnogi pobl ifanc i fod yn iachach ac yn fwy egnïol yn eu haddysg neu gymuned.
Yn dilyn eu tymor ar y panel cenedlaethol, dyfarnwyd tystysgrifau Llysgennad Ifanc Platinwm i bob aelod. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â phanel cenedlaethol 2024/25, cadwch lygad ar ein @YACymru cyfryngau cymdeithasol gan y byddwn yn mynd yn fyw gyda'r cyfle yn fuan.

Sylw I Awdurdod Lleol
Gwynedd

Ar Chwefror 28ain, aeth 60 o ddisgyblion o 14 ysgol i gynhadledd Llysgenhadon Ifanc Efydd gyntaf Gwynedd! Roedd y gweithdai’n cynnwys sesiwn meddyg mini i ddysgu am gymorth cyntaf, sesiwn gwneud smwddis i gefnogi dysgu am fwyta’n iach, a sesiwn ar sut i fod yn arweinydd cynhwysol. Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol a gwelwyd amrywiaeth o gyfleoedd a phrofiadau’n cael eu cynnig i gefnogi arweinwyr y dyfodol yn ysgolion Gwynedd.

Sir Fynwy

Ar Fawrth 8fed, fe aeth 60 o ddisgyblion o Gynllun Academi Arweinyddiaeth Sir Fynwy i’w Cynhadledd Academi Arweinyddiaeth ym Mrynbuga. Derbyniodd y llysgenhadon ifanc a oedd yn bresennol hyfforddiant arweinyddiaeth o weithdai a gynhaliwyd gan yr Youth Sport Trust, Street Games, a’r tîm Gwasanaeth Ieuenctid lleol, yn ogystal â chael sgyrsiau ysbrydoledig gan Amber Stamp Dunstan (Dyfarnwr Rygbi’r Undeb Rhyngwladol), a Pam Kelly (Prif Gwnstabl Heddlu Gwent), a rannodd gyngor da am fod yn llwyddiannus mewn amgylcheddau llawn dynion yn bennaf.

Sylw I Lysgennad Ifanc

Mae ein sylw ni y tymor yma’n canolbwyntio ar Ethan Benningwood o Gaerdydd, sy'n aelod o'r Panel Llysgenhadon Ifanc Cenedlaethol. Yn ddiweddar, penodwyd Ethan yn gapten ar gêm elusennol 24 awr ei glwb pêl fasged ac mae wedi dewis codi arian i’r Youth Sport Trust.

Meddai Ethan: “Rydw i’n gyffrous am fod yn codi arian ar gyfer yr Youth Sport Trust i sicrhau bod pob plentyn yn mwynhau buddion chwaraeon sy’n gallu newid bywyd pobl. Mae’r sefydliad yma wedi rhoi cymaint i mi drwy fy rôl i fel Llysgennad Ifanc, felly mae’n bleser gallu codi arian er mwyn iddo barhau i gefnogi pobl ifanc.” Pob lwc Ethan!

Llwyddiant Cyn-Aelodau

Mae ein ffocws ni ar gyn-aelodau y tymor yma’n canolbwyntio ar Jacob Martin, a ddechreuodd ei siwrnai fel Llysgennad Ifanc yn 13 oed yng Nghlwb Golff Glyn Abbey. Fe wnaeth gwirfoddoli yn y clwb danio ei angerdd dros golff a chymryd rhan yn ei gymuned, gan ei arwain i wirfoddoli gyda Golff Cymru ac ymuno â’u Panel Ieuenctid.
Yn dilyn hyn, aeth Jacob ymlaen i weithio yn y diwydiant teledu ac, yn ddiweddar, mae wedi sefydlu ei fusnes ei hun, JM Films. Mae wedi cael cyfleoedd anhygoel i weithio ar brosiectau amrywiol ledled y byd ar gyfer Clwb Pêl Droed Chelsea, S4C, BBC The One Show a Chystadlaethau Golff y Daith Ewropeaidd.


Dywedodd Jacob: ‘Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb y sylfeini a osodwyd gan raglen y Llysgenhadon Ifanc. Rydw i'n hynod ddiolchgar am y cyfleoedd gwych mae wedi'u darparu i mi ac am y gefnogaeth gefais i. Wrth i JM Films barhau i dyfu, rydw i’n hyderus y bydd y gwersi wnes i eu dysgu fel Llysgennad Ifanc yn parhau i fy arwain i ar y siwrnai gyffrous yma.’

Sylw I Ysgol
Mae Llysgenhadon Ifanc o Ysgol Hen Felin wedi derbyn cyllid yn ddiweddar ar ôl cyflwyno cais anhygoel yn ystod digwyddiad ‘Dragons Den’ Chwaraeon RhCT i gyflwyno prosiect golff yn eu hysgol. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i brynu offer, caniatáu iddynt greu eu cwrs golff mini eu hunain, ac efelychu maes ymarfer eu hunain ar gae yr ysgol! Gwnaeth y syniad arloesol argraff arbennig ar un o’r Dreigiau, Atkins (cwmni peirianneg sifil), a chynigiodd ei ariannu i gyd. Pob hwyl gyda sefydlu'r prosiect!

Dyddiadau I’r Dyddiadur

Isod mae rhestr o ddigwyddiadau mawr y gall Llysgenhadon Ifanc eu defnyddio i arwain, ysbrydoli a dylanwadu ar eraill i gymryd rhan weithredol dros yr Haf:

  • Tennis Wimbledon: 1 Gorffennaf - 14 Gorffennaf 2024
  • Pêl Droed yr Ewros 2024 (Yr Almaen): 14 Mehefin - 14 Gorffennaf
  • Y Gemau Olympaidd (Paris): 26 Gorffennaf - 11 Awst 2024
  • Y Gemau Paralympaidd (Paris): 28 Awst - 8 Medi 2024

I gymryd rhan yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Paris 2024, cliciwch yma i edrych ar y rhaglen 'Llwybr i Baris' am ddim i blant 5 i 11 oed a'u teuluoedd.

Os ydych chi neu eich sefydliad yn cynllunio ac yn cyflwyno unrhyw weithgareddau sy’n cael eu harwain gan Lysgenhadon Ifanc y tymor yma, tagiwch eich straeon, lluniau a / neu fideos i’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol ni gan ddefnyddio #YACymru.